Cofnodion

Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol

15 Ionawr 2014

Ystafell Briffio Cyfryngau, 12.30 - 1.30pm

 

Aelodau'r Cynulliad yn Bresennol

Mick Antoniw AC (Cadeirydd), Mike Hedges AC, Leighton Andrews AC, Julie Morgan AC, Bethan Jenkins AC, Julie James AC

Yr Ysgrifenyddiaeth

Alex Bird (Cadeirydd Gweithredol, Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru)

Siaradwyr

Daniel Rose (Pennaeth Supporters Direct, Cymru a Lloegr) Kevin Rye (Pennaeth Cyfathrebu, Supporters Direct, Cymru a Lloegr) Meurig Evans (Cadeirydd, Clwb Pêl-droed Tref Merthyr)

Gwesteion

Tim Hartley (Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd), John Strand (Clwb Pêl-droed Tref Merthyr), Mark Evans (Clwb Pêl-droed Tref Merthyr), Brent Carter (Datblygu Busnes, Clwb Pêl-droed Tref Merthyr), Alan Lewis (Cadeirydd, Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Abertawe), Ian Courtney (Cyfarwyddwr Rhanbarthol, Charity Bank), Karen Wilkie (Dirprwy Ysgrifennydd Cyffredinol, y Blaid Gydweithredol), Dr Martin Price (consultancy.coop), Alan Jones (y Gronfa Fuddsoddi Gymunedol), Angela Farr (Chwaraeon Cymru), Alan Burge, Richard Vaughan (Cymdeithas Tai Cadwyn), Ashley Drake (Rheolwr Aelodaeth, Cymru, y Grŵp Cydweithredol), Ryan Jones (Canolfan Cydweithredol Cymru), Sioned Hughes (Cyfarwyddwr Polisi ac Adfywio, Tai Cymunedol Cymru), Geoff Jones (Cymunedau Mentrus, CGGC), Jeremy Bowen-Rees (Landsker), Mike Clarke (Cadeirydd, Cartrefi Cymru) ac 11 arall

 

Agorodd Mick Antoniw AC (Cadeirydd) y cyfarfod am 12.30pm, gan groesawu'r gwesteion a chyflwyno'r siaradwyr.

Amlinellodd y Cadeirydd ei ymrwymiad i ddatblygiad y mudiad Ymddiriedolaeth Cefnogwyr yng Nghymru a phwysigrwydd posibl y Ddeddf Lleoliaeth o ran sicrhau asedau cymunedol.

Siaradodd Daniel Rose (Pennaeth Supporters Direct, Cymru a Lloegr) am waith Supporters Direct a'i darddiad. Caiff ei ariannu'n bennaf gan ardoll ar Gymdeithas Bêl-droed Lloegr, ond mae'n ymgyrchu ar gyfer pob math o chwaraeon sydd â gwylwyr. Ei werthoedd yw adfer pŵer a dylanwad y prif randdeiliaid, sef y gwylwyr. Mae gan glybiau sy'n berchen i'w cefnogwyr awyrgylch a phwrpas gwahanol, gyda mwy o bwyslais ar y gymuned, gwirfoddoli a'r chwaraewyr yn ymgysylltu â gwerthoedd y clwb. Mae'r clybiau hynny'n fwy cynaliadwy.

Siaradodd Kevin Rye (Pennaeth Cyfathrebu, Supporters Direct, Cymru a Lloegr) am waith Supporters Direct yn Lloegr ac ar draws Ewrop. Bellach, mae sefydliadau tebyg mewn nifer o wledydd Ewropeaidd, oll o dan faner Supporters Direct Ewrop. Mae hynny'n cynnwys Iwerddon, lle mae pêl-droed wedi dirywio dros ddegawdau ond bellach yn cael ei adfywio gan fudiad wedi'i arwain gan y cefnogwyr.

Tynnodd sylw hefyd at waith Clwb Pêl-droed Tref Merthyr o ran ymgysylltu â'r gymuned, yn ogystal â gwaith da Wrecsam ac Abertawe. Cyfeiriodd at Tref Merthyr fel esiampl o'r posibiliadau ar gyfer perchnogaeth gymunedol.

Rhoddodd Meurig Evans (Cadeirydd, Clwb Pêl-droed Tref Merthyr) hanes diweddar Clwb Pêl-droed Tref Merthyr, a symudodd o berchnogaeth breifat, drwy ddwylo gweinyddwyr a mynd yn fethdalwr, i berchnogaeth gymunedol. Pwysleisiodd yn benodol rôl perchennog y tir, Cyngor Merthyr Tudful, am na fyddai hynny wedi bod yn bosibl heb gymorth a chydweithrediad y Cyngor. Roedd gan y clwb un a hanner aelod o staff adeg ei lansiad ond bellach mae ganddo chwe aelod o staff, oherwydd cefnogaeth ariannol y Cyngor a phobl eraill, gan gynnwys cynnydd o dair gwaith yn fwy o nawdd gan fusnesau lleol. Mae'r clwb bellach yn gallu cynnal amrywiaeth o weithgareddau ar gyfer y bobl ifanc lleol, a gyda chymorth grant sylweddol mae'r clwb newydd agor cae pob tywydd newydd sbon a fydd yn addas ar gyfer mwy fyth o weithgareddau.

 

Cafwyd trafodaeth lle nododd Mike Hedges AC bwysigrwydd gweithredu'r Ddeddf Lleoliaeth yng Nghymru. Ategwyd hynny gan Leighton Andrews AC (aelod sylfaenol o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Caerdydd) a'r Cadeirydd. Nododd Ian Courtney, Alan Burge ac eraill y byddai hynny'n effeithio ar asedau cymunedol eraill, fel tafarndai lleol a siopau pentref. Ychwanegodd Kevin Rye bod meysydd pêl-droed yn Lloegr, fel Anfield, wedi'u rhestru'n swyddogol fel Asedau Cymunedol, sy'n eu hatal rhag cael eu gwerthu heb i'r gymuned gael cyfle i'w prynu.

Awgrymodd Leighton Andrews AC bod Supporters Direct Cymru yn hanfodol o ran datblygu'r mudiad yng Nghymru. Dywedodd Karen Wilkie ei bod hi a llawer o bobl eraill wedi dadlau o blaid mudiad Ymddiriedolaeth Cefnogwyr yng Nghymru ers blynyddoedd lawer, a bod yr amser yn iawn ar gyfer datblygiad o'r fath.

Ychwanegodd Alex Bird (Ysgrifenyddiaeth) bod natur 'un aelod, un bleidlais' Ymddiriedolaethau Cefnogwyr yn golygu, yn dilyn newid mewn strwythur cyfreithiol, y byddai'n amhosibl i unigolyn feddiannu clwb, ac mai dyna yw cryfder y mudiad.

Y consensws cyffredinol yn y cyfarfod oedd bod angen datblygu'r mudiad Ymddiriedolaeth Cefnogwyr yng Nghymru, ac awgrymwyd y dylai'r rhai sydd â diddordeb ffurfio grŵp llywio bach i wneud hynny. Cefnogodd y Cadeirydd yr awgrym.

Daeth y Cadeirydd â'r cyfarfod i ben am 1.25pm gan ddiolch i bawb am fynychu.